Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith

 

1. Crynodeb gweithredol

·         Mae'r Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) yn falch i gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddarpariaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion. Byddem yn falch i roi tystiolaeth lafar bellach i'r Pwyllgor.

·         Mae llawer o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu[i] a llyncu ymysg pobl yn yr ystâd carchardai.

·         Wrth i'r boblogaeth carchardai heneiddio, bydd mwy o bobl yn profi anawsterau cyfathrebu a llyncu, i raddau fel rhan naturiol o heneiddio, ond hefyd oherwydd cydafiachedd[ii].

·         Oherwydd y cysylltiadau rhwng anghenion cyfathrebu, gallu person i gael mynediad i raglenni triniaeth adsefydlu a manteisio ohonynt ac i fwyta ac yfed yn ddiogel, mae'n hanfodol y gall carchardai a'r system cyfiawnder ehangach ddynodi a chefnogi anghenion cyfathrebu a llesiant.

·         Dylai pob carchar yng Nghymru fod â mynediad i therapydd lleferydd ac iaith.

·         Mae darpariaeth therapi lleferydd ac iaith yn ddarniog iawn ar hyn o bryd ar gyfer pobl ar draws y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae dau therapydd lleferydd ac iaith yng Ngharchar Ei Mawrhydi (CEM) Berwyn.

 

2. Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder

·         Canfu ymchwil o garchardai oedolion fod gan 79% o garcharorion mewn oed anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu a bod lefelau anawsterau cyfathrebu yn uwch yn y boblogaeth carchardai nag yn y boblogaeth yn gyffredinol[iii] [iv].  Mae gan dros 60% o droseddwyr ifanc anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwyddom fod problemau cyfathrebu'n parhau i fywyd fel oedolion felly disgwylir y bydd niferoedd tebyg o anawsterau cyfathrebu yn dal i fod ar draws yr ystadau carchardai ieuenctid ac oedolion[v].

·         Mae'r rhai a aiff i garchar yn aml yn gwneud hynny o osodiadau lle mae risg uwch fod gan bobl anghenion cyfathrebu nad ydynt efallai wedi eu hadnabod yn flaenorol. Ar gyfer oedolion, mae hyn yn cynnwys bod yn ddi-waith, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl, bod mewn gofal neu fod â hanes mewn ysgol arbennig[vi]

·         Gall pobl gydag anghenion cyfathrebu ei chael yn anodd mynegi eu teimladau ac maent yn aml yn cyfathrebu drwy ymddygiad. Gall hyn arwain at ymddygiad troseddol, ymddygiad yn arwain at ataliaeth ac oedi i'w rhyddhau o safleoedd cadw.

·         Gellir hefyd weld problemau lleferydd mewn pobl fel sgil-effaith meddygaeth gwrthseicotig[vii]

 

3. Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn gysylltiedig gyda chyflyrau eraill

·         Caiff anawsterau cyfathrebu eu cysylltu'n aml gyda nifer sylweddol o gyflyrau sydd yn gyffredin ar draws yr ystâd carchardai. Mae'r rhain yn cynnwys awtistiaeth, anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl a chyflyrau niwroddatblygiadol. 

·         Amcangyfrifir fod gan 20-30% o bobl mewn carchar anableddau dysgu neu anawsterau sy'n ymyrryd gyda'u gallu i ymdopi gyda'r system cyfiawnder troseddol[viii].

·         Mae 80% o'r bobl mewn carchar sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu'n dweud eu bod yn cael problemau'n darllen gwybodaeth yn y carchar - roeddent hefyd yn cael anawsterau yn mynegi eu hunain a deall geiriau neilltuol[ix].

·         Gyda phoblogaeth carchardai yn heneiddio[x] mae nifer gynyddol o bobl gydag anghenion cyfathrebu neu lyncu fel canlyniad i gyflyrau hirdymor. Yn CEM Berwyn mae'r tîm therapi lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phobl hŷn gyda dementia, strôc, dysffagia, camddefnydd sylweddau hirdymor, anaf pen a dirywiad gwybyddol yn gysylltiedig gyda chyflyrau niwrolegol eraill.

 

4. Anghenion bwyta, yfed a llyncu yn y system cyfiawnder

·         Mae anawsterau bwyta, yfed a llyncu (dysffagia) yn anhawster cyffredin ymysg oedolion sy'n heneiddio[xi]. Mae problemau llyncu yn gysylltiedig gydag amrywiaeth o gyflyrau yn cynnwys anabledd dysgu, anaf ymennydd, strôc, canser a chyflyrau niwrolegol cynyddol yn cynnwys dementia. Gallant hefyd fod yn gysylltiedig gyda'r defnydd o gyffuriau gwrthseicotig.

·         Mae'r boblogaeth carchardai yn heneiddio gyda phobl dros 60 y grŵp oedran sy'n cynyddu gyflymaf mewn dalfa[xii].  Mae'r mecanwaith llyncu hefyd yn gostwng mewn effeithiolrwydd gydag oed[xiii], sydd yn berthnasol gyda phoblogaeth carchardai sy'n heneiddio[xiv] [xv].

·         Mae tystiolaeth yn awgrymu fod carcharorion yn ymgynghori'n fwy aml gyda gwasanaeth gofal iechyd na phoblogaethau 'safonol': er enghraifft, yn gofyn am weld meddyg dair gwaith mwy aml, yn gofyn am weld gweithiwr gofal sylfaenol 80 gwaith mwy aml, yn cael mynediad ofal cleifion mewnol 10 gwaith mwy aml [xvi]. Mae hyn yn awgrymu'r angen am system gofal iechyd gadarn o fewn safleoedd carchar.

 

5. Effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu na chawsant eu dynodi a/neu eu cyflenwi

·         Mae sgiliau cyfathrebu yn sylfaenol. Yn ogystal â bod yn sgiliau mynegi (ein gallu i sicrhau y cawn ein deall), maent hefyd yn sgiliau derbyn (ein gallu i ddeall).

·         Caiff anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn aml eu cuddio fel y gellir anghofio am eu pwysigrwydd.

·         Os yw'r anawsterau hyn yn parhau heb eu hadnabod neu eu diwallu, gallant gael canlyniadau negyddol i allu pobl i gael mynediad a hefyd ymgysylltu gyda'r system cyfiawnder, ac i'r rhai sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol i fedru adnabod ac ymateb mewn modd priodol i anghenion unigol pobl.

·         Bydd gan bobl gyda sgiliau cyfathrebu ddealltwriaeth gyfyngedig o raglenni triniaeth ac adsefydlu a gynlluniwyd i'w diwygio a'u hailsefydlu a gaiff eu cyflenwi yn llafar a byddant yn cael anhawster i gael mynediad  iddynt. Mae tystiolaeth yn awgrymu yr effeithir ar tua 40% o bobl.[xvii]

·         Bydd pobl gydag anghenion cyfathrebu yn cael anhawster mewn gwaith grŵp oherwydd diffyg sylw, sgiliau gwrando gwael, sgiliau cymdeithasol gwael, dealltwriaeth sain wael, diffyg hyder mewn iaith fynegiannol a geirfa annigonol[xviii]

·         Bydd pobl gydag anghenion cyfathrebu yn ei chael yn anodd i gymryd rhan mewn asesiadau corfforol a meddygol a gyflenwir yn llafar.

 

6. Effaith anghenion bwyta, yfed a llyncu na chafodd eu hadnabod a/neu eu diwallu

·         Gall anawsterau bwyta, yfed a llyncu fod â chanlyniadau sy'n bygwth bywyd. O'u gadael heb gefnogaeth, gallant arwain at dagu, niwmonia, haint ar y frest, dadhydradu a diffyg maeth. Gallant hefyd arwain at iddynt orfod gael eu derbyn heb fod angen i ysbyty  ac mewn rhai achosion, farwolaeth.

·         Gall anawsterau llyncu gael eu hachosi gan gyffuriau gwrthseicotig[xix] [xx] gyda chanlyniadau posibl tagu a niwmonia allsugnad[xxi].

·         Mae mwy o risg niwmonia allsugnad ar ôl strôc neu gyda dementia[xxii].  Mae adnabod a gweini problemau llyncu yn gostwng y tebygrwydd cyffredinol o gael niwmonia[xxiii] [xxiv]

·         Gallant hefyd ei gwneud yn anos i gymryd meddyginiaeth.

·         Gall pobl gydag anghenion llyncu fod angen cael mynediad i fwyd a diod wedi eu haddasu o ran ansawdd, ond nid yw mynediad i offer a blendwyr bob amser ar gael mewn carchar, gan effeithio ar ddiogelwch eu bwyta.

 

7. Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a'r effaith ar ymddygiad

·         Mae pobl gydag anawsterau yn deall a defnyddio iaith mewn risg o ddatblygu problemau ymddygiad[xxv] [xxvi].  Gall hyn fod oherwydd rhwystredigaeth oherwydd methu deall yr iaith a glywant ac i fynegi eu hunain, yn arbennig os na chafodd eu hanawsterau eu hadnabod.

·         Mae pobl yn aml yn cael camddiagnosis o anhawster ymddygiad yn hytrach nag anhawster cyfathrebu na chafodd ei adnabod [xxvii]  [xxviii]  [xxix].  Os oes problemau ymddygiad yn bresennol, yn aml ni chaiff anghenion cyfathrebu eu hystyried[xxx]

·         Wrth i anawsterau cyfathrebu pobl gynyddu, mae mathau ymddygiad a gaiff eu hystyried yn heriol hefyd yn cynyddu mewn amlder, dwyster a pharhad[xxxi].

·         Gall pobl gydag anghenion cyfathrebu ei chael yn anodd mynegi eu hemosiynau ac efallai y byddant yn ymateb gydag ymddygiad heriol pan maent yn wynebu sefyllfaoedd nad ydynt yn eu deall[xxxii].  Gall pobl gyda phroblemau ymddygiad, yn rhwystredig oherwydd eu hanallu i'w mynegi eu hunain, arddangos ymddygiad aflonyddol[xxxiii] neu ymosodol. 

 

8. Amgylchedd carchardai ac ymyriad corfforol

·         Gall pobl gydag anghenion cyfathrebu ei chael yn anodd ymdopi mewn amgylchedd carchar, gyda'i reolau, systemau a gofynion cymhleth[xxxiv].  

·         Gall staff gamddeall a chamddehongli ymddygiad heriol neu anodd a chosbi'r troseddwr yn hytrach na mynd at wraidd y broblem. Mewn dalfa, gall hyn arwain at ymyriadau ac ataliaeth corfforol i ostwng trais ac ymddygiad aflonyddol.

·         Gall ymddygiad cyson neu aflonyddol fod yn arwydd o broblem sylfaenol a lle mae pryderon am ymddygiad dylid cynnal asesiad i benderfynu os oes unrhyw ffactorau achosol megis problemau cyfathrebu[xxxv].

·         Yn aml ni fydd pobl gydag anghenion cyfathrebu yn deall y rhesymau am eu disgyblaeth a all arwain at rwystredigaeth, pryder, ofn ac iselder.

·         Mae hon yn sefyllfa o risgiau cynyddol, lle dangoswyd fod gan ynysigrwydd effaith negyddol ar iechyd meddwl, eto mae pobl gydag anghenion cyfathrebu eisoes mewn risg o broblemau iechyd meddwl.

 

9. Neilltuaeth

·         Pan fo rhywun wedi bod mewn neilltuaeth hirdymor, mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio i gefnogi a chynnal sgiliau cyfathrebu i gefnogi ailintegreiddio i adain y carchar.

 

10. Technegau dad-ddwysau

·         Lle na chafodd anghenion cyfathrebu eu hadnabod, mae pobl mewn risg o ymyriad corfforol y gellid bod wedi ei osgoi, pe defnyddid gwahaniaethu llafar a dad-ddwysau priodol.

·         Defnyddir technegau dad-ddwysau hefyd i ostwng trais, sy'n dibynnu ar sgiliau cyfathrebu llafar a heb fod yn llafar[xxxvi].  Mae sgiliau cyfathrebu da, yn sgiliau mynegi a sgiliau derbyn, yn sylfaen i dechnegau dad-ddwysau. 

·         Ni fydd gan bobl gyda sgiliau cyfathrebu ddealltwriaeth sylweddol neu'r iaith fynegol angenrheidiol i ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Mae amgennau i ymyriad corfforol yn annhebyg o fod yn llwyddiannus heb gymorth ychwanegol.

 

 

11. Sut y caiff anghenion cyfathrebu a llyncu eu hadnabod, eu cefnogi a'u rheoli?

·         Nid oes sgrinio a dynodi cyffredinol ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac anawsterau llyncu mewn carchardai. Rydym yn argymell asesiad systematig ar gyfer pawb oherwydd y nifer fawr o bobl gydag anghenion cyfathrebu ac anghenion llyncu mewn carchardai.

·         Gellid addasu model ar gyfer y dull gweithredu hwn o'r dull sgrinio a ddatblygwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gyda Choleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith fel rhan o  AssetPlus[xxxvii].   Caiff pawb a gaiff eu derbyn i'r system cyfiawnder ieuenctid eu sgrinio am anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Ymhellach yn yr ystâd dalfa ieuenctid caiff anghenion iechyd y person ifanc eu hasesu drwy'r dull asesu gofal iechyd cynhwysfawr (CHAT)[xxxviii] ond nid oes dim byd cyfatebol yn bodoli yn yr ystâd oedolion.

 

12. Darpariaeth therapi lleferydd ac iaith mewn timau troseddu ieuenctid a charchardai yng Nghymru

·         Er yr angen uchel, ychydig o therapyddion lleferydd ac iaith a gaiff eu comisiynu i weithio mewn carchardai.

·         Argymhellodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid cynnal gwaith peilot ar fanteision posibl therapi lleferydd ac iaith ar gyfer troseddwyr iau: mewn dalfa a hefyd ar ôl cael eu rhyddhau[xxxix].  Er bod tystiolaeth gref o'r cynlluniau peilot, ar hyn o bryd dim ond dau dîm troseddu ieuenctid yng Nghymru (Bae Gorllewinol a Gwent) sy'n cyflogi therapyddion lleferydd ac iaith.

·         Agorodd CEM Berwyn yn 2017 ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi dau therapydd lleferydd ac iaith. Nid oes unrhyw ddarpariaeth therapi lleferydd ac iaith arbenigol ar hyn o bryd yng ngharchardai Caerdydd, Abertawe, Brynbuga na Phrescoed.

 

13. Dysgu o ddarpariaeth lleferydd ac iaith yn CEM Berwyn

·         Mae CEM Berwyn yn cyflogi dau therapydd iaith a lleferydd ar hyn o bryd. 

·         Caiff cleientiaid eu cyfeirio o amrywiaeth o randdeiliaid i gael eu cefnogi ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a llyncu. 

·         Mae'r galw am therapi lleferydd ac iaith yn CEM Berwyn yn parhau'n sefydlog ar tua 20% o'r boblogaeth.

·         Mae tua traean y gwaith lleferydd ac iaith yn CEM Berwyn yn cefnogi cleientiaid gydag anghenion iechyd meddwl a/neu broblemau rheoleiddio emosiynol. Mae therapi lleferydd ac iaith wedi cymryd rôl cydlynydd gofal dan y mesurau iechyd meddwl ar gyfer rhai cleientiaid.

·         Mae'n dal i fod angen hyfforddiant staff i annog atgyfeiriadau priodol ac amserol ond mae diffyg sefydlogrwydd yn y grŵp staff swyddogion carchar yn effeithio ar hyn.

·         Mae'r tîm therapi lleferydd ac iaith yn rhoi hyfforddiant i nifer o grwpiau staff allweddol megis y tîm gofal iechyd integredig, yr adran seicoleg fforensig a thiwtoriaid coleg ar brosesu iaith a strategaethau cyfathrebu.

·         Mae rheoli anghenion dysffagia cleientiaid yn CEM Berwyn heb fod angen iddynt adael y safle wedi caniatáu gofal ardderchog i gleientiaid ac arbedion cost i'r sefydliad.

Rhwystrau

·         Ni chaiff anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a llyncu eu cydnabod yn unffurf ar draws yr ystâd felly mae darpariaeth anghyson ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

·         Mae diffyg therapi lleferydd ac iaith mewn carchardai eraill yn effeithio ar lwybr gofal cleientiaid. Mae hyn yn broblemus i gleientiaid gyda nodau gweithredol a gaiff eu trosglwyddo i garchar arall lle nad oes gwasanaeth lleferydd ac iaith i barhau â'r gwaith.

·         Rhoddwyd statws categori D i gleient diweddar therapi lleferydd ac iaith ond mae rhwng dau feddwl am hyn gan ei fod yn golygu na fydd yn gallu cael mynediad i wasanaethau therapi lleferydd ac iaith pan fydd yn gadael CEM Berwyn.

·         Mae diffyg gofodau clinigol a phrinder ystafelloedd triniaeth yn effeithio ar gynigion clinigol.

Y ffordd ymlaen

·         Rhaid i gyllid fod ar gael i ddarparu therapi lleferydd ac iaith sy'n addas ar gyfer y boblogaeth. Yn CEM Berwyn caiff hyn ei fonitro a'i ystyried drwy asesiad anghenion iechyd fel adolygiad parhaus.

 

14. Argymhellion y RCSLT  

Oherwydd  nifer uchel  anghenion cyfathrebu a llyncu pobl yn y system gyfiawnder a chanlyniadau peidio eu cefnogi, mae'r Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn argymell bod gwasanaethau lleferydd ac iaith ar gael i staff yn gweithio mewn dalfa. Byddai hyn yn galluogi:

·         Dynodi - Dylai pawb gael eu sgrinio ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn ogystal ag anghenion llyncu. Dylai'r rhai sydd â phroblem gael eu hatgyfeirio at therapi lleferydd ac iaith ar gyfer asesiad arbenigol

1.       Cefnogaeth – dylai pob carchar fod â mynediad i therapi lleferydd ac iaith i gefnogi'r bobl sydd ei angen, yn ogystal â rhoi cyngor a chefnogaeth barhaus i staff i'w galluogi i ddiwallu anghenion pobl unigol.

2.       Hyfforddiant - Dylai'r holl staff gael eu hyfforddi i gydnabod ac ymateb mewn modd priodol i anghenion cyfathrebu. Fel rhan o hyfforddiant am drais a natur ymosodol, dylid ychwanegu adran ar effaith cyfathrebu a'r rhyngweithiad rhwng y staff-person ar ddwysau a dad-ddwysau digwyddiadau.

 

15. Rôl therapyddion lleferydd ac iaith

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn asesu ac yn cefnogi  lleferydd, iaith a chyfathrebu  phroblemau bwyta, yfed a llyncu pobl o bob oed.

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda staff i addasu eu rhaglenni a gyflwynir yn llafar i'w gwneud yn fwy hygyrch a chefnogi cleientiaid i gael mynediad iddynt.

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn helpu i addasu dogfennau ac arwyddion i'w gwneud yn fwy hygyrch i sicrhau y gall unigolion ddeall gweithdrefnau yn y carchar. Mae hyn yn rhan o greu amgylchedd hygyrch a chyfeillgar o ran cyfathrebu.

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn cysylltu gyda'r gwasanaeth arlwyo i sicrhau y gellir addasu ansawdd bwyd ar gyfer y rhai sydd angen hynny, oherwydd eu hanawsterau llyncu.

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn hyfforddi'r gweithlu carchar ac iechyd ehangach i ddatblygu strategaethau i wella'r amgylchedd cyfathrebu sy'n cael effaith gadarnhaol ar bawb.

·         Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn cefnogi staff i hyrwyddo strategaethau dad-ddwysau effeithlon a deilwriwyd i anghenion cyfathrebu yr unigolyn. Mae hyn yn caniatáu strategaethau mwy gweithredol i reoli ymddygiad sy'n herio ac atal defnydd ataliaeth corfforol.

 

16. Y RCSLT

16.1. Y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) yw'r corff proffesiynol ar gyfer therapyddion, myfyrwyr, a gweithwyr cymorth lleferydd ac iaith yn gweithio yn y Deyrnas Unedig. Mae gan yr RCSLT dros 17,000 aelod. Hyrwyddwn ragoriaeth mewn ymarfer a dylanwadu ar bolisïau iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a chyfiawnder.

 

 

17. Gwybodaeth bellach

Cyflwynwyd gan xxxx, Cynghorydd Polisi, Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith

 

 

 



CYFEIRIADAU
[i]
Practice advice: speech, language and communication needs (SLCN) in the youth justice system, (2015),

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol a Choleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, https://www.gov.uk/government/publications/speech-language-and-communication-needs-in-the-youthjustice-

system/practice-advice-speech-language-and-communication-needs-slcn-in-the-youth-justice-system

[ii] Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (2008). Doing Time: the Experiences of Older People in Prison. Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: Llundain.

[iii] Communication on Probation. / Pierpoint, Harriet; Iredale, Rachel; Parrow, Beth. Yn: Speech and Language Therapy in Practice, 31.05.2011, t. 14 - 16.

[iv] Nicola McNamara, (2012) "Speech and language therapy within a forensic support service", Journal of Learning Disabilities and Offending Behaviour, Cyfrol 3, Rhifyn: 2, tt. 111-117,  

[v] Bryan K, Freer J, Furlong C (2007) Language and communication difficulties in juvenile offenders. International Journal of Language and Communication Disorders, 42, 505-520.

[vi] Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith  (2017). Supporting Social, Emotional, mental Health and Wellbeing, 2018 www.rcslt.org/speech_and_language_therapy/docs/factsheets/mental_health

[vii] Krämer et al. (2010)

[viii] Loucks,N (2007). No one knows: Offenders with Learning Difficulties and Learning Disabilities. Review of prevalence and associated needs. Llundain: Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.

[ix] Talbot, J (2008). Prisoners’ Voices: Experiences of the criminal justice system by prisoners with learning disabilities and difficulties.  Llundain: Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai

[x] Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (2008). Doing Time: the Experiences of Older People in Prison. Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: Llundain.

[xi] Sura L, et al. Dysphagia in the elderly: management and nutritional considerations. Clinical Interventions in Aging, 2012, 7; 287-98 doi 10.2147/CIA.S23404

[xii] Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (2008). Doing Time: the Experiences of Older People in Prison. Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: Llundain.

[xiii] Wakabayashi, 2014

[xiv] Robbins et al, 1999

[xv] Tracy et al, 1989

[xvi] Marshall T, et al (2001). Use of healthcare service by prison inmates: comparisons with the community. Journal of Epidemiology and Community Health. 55; 364-365

[xvii] Bryan, K (2004) Prevalence of speech and language difficulties in young offenders. International Journal of Language and Communication Disorders; 39, 391-400.

[xviii] Adborth o lwyth achos cleientiaid yn CEM Berwyn, Mai 2019

[xix] McCarthy a Terkelsen 1994

[xx] Varanese et al. 2011

[xxi] Pennod 17: Psychiatric Disorders and Communication, Bryan K, University of Surrey, UK

[xxii] Almirall et al 2103

[xxiii] Logemann 2008

[xxiv] Bray et al. 2016

[xxv]  Petersen et al., 2013

[xxvi] Humber a Snow, 2001

[xxvii] Humber a Snow, 2001, The oral language skills of young offenders: A pilot investigation Article in Psychiatry Psychology and Law 8(1):1-11 · Ionawr 2001

[xxviii] Cohen et al.,

[xxix] Lanz 2009

[xxx] Gregory a Bryan, 2011

[xxxi] Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Five good communication standards. Llundain: RCSLT, 2013.

[xxxii] Reducing the Need for Restraint and Restrictive Intervention: Children and Young People with Learning Disabilities, Autistic Spectrum Disorder and Mental Health Difficulties, 2017

[xxxiii] Humber a Snow, 2001

[xxxiv] Adroddiad Bradley 2010

[xxxv] Ymateb RCSLT i ymgynghoriad yr Adran Iechyd a'r Adran Addysg ar ostwng yr angen am ataliaeth corfforol ac ymyriad cyfyngol

[xxxvi] Craig, 1996

[xxxvii] AssetPlushttps://www.gov.uk/government/publications/assetplus-speech-language-communication-and-neuro-disability-screening-tool

[xxxviii] CHAT http://www.ohrn.nhs.uk/OHRNResearch/CHAT

[xxxix] Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynuylliad Cenedlaethol Cymru (2010).  Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant o Gymru yn yr Ystâd Ddiogel. Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Caerdydd.